Wednesday, January 24, 2007

Y sector gyhoeddus yn creu swyddi

Newyddion diddorol iawn oddiwrth Alun Cairns ddoe am y nifer o swyddi sydd wedi eu creu yn y sector gyhoeddus yng Nghymru ers 2003.

Er i Rhodri Morgan ddweud fod y sector breifat yng Nghymru sydd wedi creu y rhan fwyaf o'r swyddi o dan ei Lywodraeth, mae'r ystadegau yma yn cefnogi barn llawer i economegydd am yr or-ddibyniaeth ar arian y sector gyhoeddus ac, yn bwysicach, gwendid y sector breifat yng Nghymru.

Mae'n glir i unrhyw Geidwadwr fod rhaid cefnogi'r sector breifat i greu mwy o gyfoeth ac y mae'n amser i Lywodraeth y Cynulliad ddod a mwy o arbennigaeth busnes i fewn i helpu gyda datblygu'r economi, yn arbennig gyda rheoli y cronfa anferth o Ewrop sydd wedi ei clustnodio at ardaloedd tlotaf Cymru.

No comments: