Wednesday, February 28, 2007

Comedian yn y Cynulliad?

Gyda Dydd Gwyl Dewi yfory, mae'n hynod o ddiddorol cael gweld y ffordd mae gwledydd eraill yn edrych ar beth sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru, yn arbennig yn wleidyddol.

Felly, fydd yn siom mawr i bawb o'n gwlad fach fod y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi cael ei farnu yn hallt iawn yn yr Iwerddon am ei joc gwael, yn gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno, am grefydd Ian Paisley o'r DUP.

Dywedodd Rhodri Morgan yn y Western Mail fod yn oedd yn rhy hwyr i newid ei gymeriad - piti mawr, oherwydd dim dyma'r ffordd i Brif Weinidog Cymru ymddwyn, yn arbennig gyda llai na bythefnos nes etholaeth Gogledd Iwerddon.

Sut fuasa'r Blaid Lafur wedi ymateb i joc tebyg gan Nick Bourne neu David Cameron?

Os ydi Rhodri ddim am newid, wyrach mae'n amser i'r etholwyr newid ei Prif Weinidog

No comments: