Thursday, February 08, 2007

Lansio maniffesto diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon


Wedi bod yn fflat ar fy nghefn gyda anwyd trwm ers Dydd Llun (man flu iawn!) ond yn ol yn blogio o'r diwedd!

Wedi cael wythnos llwyddianus iawn yn canfasio dros 3,000 o dai yn ardal Llandudno. Mae'r eira yn edrych yn drwm iawn heddiw a tydi damweiniau ddim am helpu'r yrfa o gwbwl!

Yn lansio maniffesto Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yng Nghaergybi heddiw ac y mae hwn un o'r pethau pwysicaf i ddod allan o strategaeth etholiadol 2007.

Y mae un plaid - Plaid Cymru - wedi gweld ei hunan fel y blaid naturiol i siaradwyr Cymraeg. Wel, mae hyn am orffen yn sydyn iawn gyda'r maniffesto yma a mae yn dangos faint mor bell mae'r Ceidwadwyr wedi symyd ac hefyd bod mae yna ddyletswydd ar pob Plaid i amddifyn ein diwylliant.

Back on the blog after being in bed with the flu for the last couple of days!

This was followed a very successful canvassing campaign at the end of last week where nearly 3,000 households were covered. The snow looks like disrupting the work for today and tomorrow but we will be back on the road over the weekend!

Today sees the launch of our mini-manifesto for Culture, Media and Sport at Holyhead. This breaks new ground, in my opinion, over the position of the Welsh Conservatives regarding the Welsh language.
Too often in the past, one party - Plaid Cymru - has seen Welsh speakers as their natural supporters. Well, no more and it is time that every party in Wales saw itself as the defender of our heritage and culture.

1 comment:

Bonheddwr said...

Mae sylwadau aelodau Ceidwadol yng Nghymru wedi bod yn galonogol iawn dros y misoedd diwethaf o ran yr iaith Gymraeg yn gyffredinol, a'r angen am Ddeddf Iaith Newydd, ond pa mor bell mae'r Toriaid yn fodlon mynd yn y maniffesto?

Mae'r Toriaid a Chymdeithas yr Iaith yn cytuno ar nifer o agweddau, e.e. gwneud y Gymraeg yn iaith Swyddogol a sefydlu comisiynydd, ond beth am y sector breifat?

A fydd y blaid Geidwadol yn ddigon dewr i dderbyn fod angen ymyryd yn y sector breifat er mwyn sicrhau parhad a ffyniant y Gymraeg? Mae rhaid i fusnesau ar hyn o bryd gyd-ymffurfio gyda chyfreithiau yn ymwneud a'r amgylch ac anabledd yn barod, a chred nifer fod angen trin y Gymraeg yn yr un modd.

Nid yw hyn yn golygu gorfodi pob math o gwmniau preifat, pob maint ym mhob ardal i fabwysiadu polisi Cymraeg yn syth, dylai fod system 'matrix' mewn lle, a grantiau ar gael i helpu'r busnesau bach ayb, ond fel egwyddor dylid disgwyl fod pawb sy'n cynnig gwasanaeth, ym mha bynnag sector, yn gwneud hynny yn ddwyieithog yn y pendraw.

Beth yw eich barn chi ar hyn, a beth sydd/fydd yn maniffesto'r Ceidwadwyr?