Sunday, April 22, 2007

Deg diwrnod i fynd....

Deg diwrnod i fynd ac mae'n rhaid imi ddweud fy mhod wedi blino'n gorfforol ond wedi mwynhau pob munud (i fyny i rwan!).

Mae yna lot o waith yr wythnos yma wrth gwrs, ac ar ben y canfasio i gyd, y mae un o 'top stars' y Ceidwadwyr wedi penderfynu dod draw yn ganol yr wythnos i drafod polisiau gyda pobol busnes yr ardal.

Mae hyn i gyd yn 'top secret' ar y funud - dwi ddim yn gwybod pa bryd ac ym mhle tan yfory - ond mi fydd yn gyfle i cael trafodaeth diddorol am ei weledigaeth i'r wlad ar ol yr etholaeth gyffredinol nesaf.

Mi roedd eistedd o flaen gynulleidfa Pawb a'i Farn nos Iau am y tro cyntaf braidd yn scary, ond roedd Dewi Llwyd yn ffantastic gyda pawb. Dwi wedi gweld yr usual 'hate mail' gan rhai o bloggers Plaid am fy mherfformiad. So what, mae pobol Pwllheli wedi bod yn llongyfarch mam ar y stryd fawr ac os ydi hi yn hapus, pwy sydd yn poeni!?!

Wrth gwrs, roedd Wigley wedi arfer hefo'r fformat, ond mi gefais sioc ar be ddywedodd Jonathan Austin am y Blaid Lafur i.e. wedi gwneud penderfyniad i beidio mynd i glymblaid hefo unrhyw Blaid. Mae'n siwr roedd Rhodri Morgan (a Mike German) wedi cael cathod am hyn. Wyrach mai 'nerves' oedd wedi hitio Jonathan ar y noson oherwydd y bore wedyn, mi roedd y blaid Lafur yn gorfod rhoi neges allan fod camgymeriad oedd hyn i gyd!

Mae'n rhaid fod yn ofalus iawn ar rhaglen wleidydddol fyw!

Y piti mwyaf oedd peidio cael y cyfle i siarad am ddyfodol yr Iaith Gymraeg, yn arbennig pwysigrwydd tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, dewiswyd cwestiwn am y maes awyr yn Sir Fon gan y gynulleidfa yn lle un ar yr iaith.

Fuase hyn wedi bod yn gyfle gwych i son am bolisiau Cyngor Gwynedd. Pwy fuasa wedi credu fuasa cynghorwyr Plaid Cymru yn hollol barod i rhoi caniatad cynllunio i adeiladu penthouses yn Cei Fictoria (sydd yn gwerthu am £750,000) ond ddim mor barod i rhoi caniatad cynllunio i deuluoedd ifanc lleol ym Mhen Llyn i adeiladu tai ar dir o gwmpas y pentrefi lle cafwynt ei magu?

Fuaswn wrth fy modd wedi clywed barn rhai o gefnogwyr Plaid yn y gynulleidfa am hyn, yn arbennig y rhai oedd yn digon barod i farnu'r Ceidwadwyr!

Tipyn o frec o wleidyddiaeth y pnawn yma - dwi'n gorfod ysgrifennu erthygl i Microsoft ar gyfer llyfr y maent yn ei gyhoeddi ar ddyfodol economi'r byd. Mae gen i 'writers block' ar y funud felly off i gael paned o de a gobeithio fydd yna ddigon o ysbrydoiaeth gan PG Tips imi cael ei orffen cyn 6 heno!

5 comments:

Anonymous said...

"Dyl" - ydach chi "o ddifri "yn meddwl fod unrhyw un llyncu eich "rhith syniadau"???

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...

Y piti mwyaf oedd peidio cael y cyfle i siarad am ddyfodol yr Iaith Gymraeg, yn arbennig pwysigrwydd tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, dewiswyd cwestiwn am y maes awyr yn Sir Fon gan y gynulleidfa yn lle un ar yr iaith.


Yn wir, roedd un o hogia Cymuned wedi cael ei wahodd yno ac wedi teithio'r holl ffordd i ofyn cwestiwn am y pwnc 'ma, ond chafodd ddim y cyfle.

Yr unig broblem efo dy "berfformiad" oedd y ffaith na chest ti lot o gyfle i ddweud dim. Fel ti'n dweud, mae Wigley yn hen arfer cael gair i mewn, ond serch hynny roedd y gynulleidfa yn cael gormod o sylw. Mae bron yr un peth yn digwydd ar "Election 2007" BBC 1. Gwell gen i weld rhywbeth yn debycach i Question Time o ran trefniant amser. Dw'i jyst ddim yn gweld pwynt cael gwleidyddon yno o gwbl os nad ydynt yn cael amser i ddweud eu dweud.

Professor Dylan Jones-Evans said...

I have deleted a blog comment because the anonymous little shit who posted it referred to my wife and family.

If you are going to make comments about my family, then have the guts to put your name to it.

Draig O Gonwy said...

Prof

Not surprising - I also hear on the grapevine that someone has tried to run a smear campaign against you in one of the local papers in Aberconwy. I wonder which party these cowards support?

Everyone appreciates that politics is a hard game and not many of us would stick our head above the parapet at any cost, but for some anonymong to go after your mrs and your kids is just not on.

However, it does show that you are hitting them where it hurts, although I am sure you would like to do that more than metaphorically.